{"id":1004,"date":"2024-02-20T10:31:27","date_gmt":"2024-02-20T10:31:27","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-cf11.azurewebsites.net\/?page_id=1004"},"modified":"2024-02-20T15:34:29","modified_gmt":"2024-02-20T15:34:29","slug":"amodau-llogi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/amodau-llogi\/","title":{"rendered":"Amodau Llogi"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_custom_heading source=&#8221;post_title&#8221; font_container=&#8221;tag:h1|text_align:left&#8221; use_theme_fonts=&#8221;yes&#8221;]<div class=\"spacer\" style=\"height: 40px;\"><\/div>[vc_column_text]<\/p>\n<h2>1. Amodau<\/h2>\n<div>(a) Yn yr amodau hyn mae \u201cLlogwr\u201d yn golygu\u2019r person sy\u2019n llofnodi\u2019r ffurflen gytundeb ac yn cynnwys y sefydliad y mae\u2019r cais yn cael ei wneud ar ei ran.\u00a0 Mae \u201cCyngor\u201d yn golygu Cyngor Dinas Caerdydd. Mae \u201cRheolwyr\u201d neu \u201cRheolwr\u201d yn golygu Swyddog y Cyngor sy\u2019n gyfrifol am y safle yn ystod yr archeb. Mae \u201cSafle\u201d yn golygu\u2019r ystafelloedd\/cyfleusterau\/offer y cyfeirir atynt yn y cytundeb eglurhaol.\u00a0 \u00a0Mae \u201cTaliad\u201d yn golygu\u2019r swm sydd i\u2019w dalu gan y llogwr fel y nodir yn y cytundeb eglurhaol am ddefnyddio\u2019r safle.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(b) Ni chaiff y safle ei logi oni dderbynnir ffurflen archebu swyddogol y Cyngor, wedi\u2019i llofnodi gan y Llogwr.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>2. Taliad<\/h2>\n<div>Bydd y Llogwr yn talu\u2019r taliad i&#8217;r Cyngor ar \u00f4l i&#8217;r Llogwr dderbyn anfoneb swyddogol a chaiff y Taliad hwnnw ei dalu cyn i\u2019r safle gael ei ddefnyddio.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>3. Canslo<\/h2>\n<div>(a) Gan y Llogwr:-<\/div>\n<div>(i) Archebion achlysurol unigol wedi&#8217;u gwneud ar gyfer Cae 3G dan do ac awyr agored.<\/div>\n<div>Bydd unrhyw achos o ganslo na roddir gwybod amdano dros y ff\u00f4n neu&#8217;n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn yr archeb, oni bai y gellir llogi\u2019r cyfleuster i rywun arall, yn gorfod talu&#8217;r ffi logi lawn.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(ii) Pob archeb arall<\/div>\n<div>Rhaid canslo\u2019n ysgrifenedig o leiaf 28 diwrnod cyn yr archeb.\u00a0 Os bydd y Llogwr yn methu \u00e2 rhoi 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig, codir y ffi logi lawn ar y Llogwr am yr holl ardaloedd a chyfleusterau nad oes modd eu llogi i rywun arall.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(b) Gan y Cyngor<\/div>\n<div>Mae\u2019r Cyngor yn cadw\u2019r hawl i ganslo neu gau\u2019r cyfleuster ar gyfer Digwyddiadau Arbennig ac amgylchiadau eraill nad yw\u2019n gallu eu rheoli.\u00a0 Caiff arian wedi\u2019i dalu ar gyfer archeb ei ad-dalu yn yr achos hwn.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>4. Defnyddio\u2019r Safle<\/h2>\n<div>(a) Cyn dechrau\u2019r cyfnod llogi, bydd Swyddog y Cyngor yn archwilio\u2019r safle i wirio ei gyflwr a bydd unrhyw gofnod a wneir yn dystiolaeth derfynol o gyflwr y safle at ddiben y cytundeb hwn.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(b) Gall y Llogwr ddefnyddio\u2019r safle at y diben a nodir yn y cytundeb eglurhaol, ond nid at unrhyw ddiben arall dan unrhyw amgylchiadau. Os caiff ei ddefnyddio gan y Llogwr, neu unrhyw berson y mae\u2019r Llogwr yn gyfrifol amdano (gan gynnwys unrhyw berson sy\u2019n mynd i\u2019r safle fel gwestai i\u2019r Llogwr) at ddiben ar wah\u00e2n i&#8217;r diben y llogwyd y safle ar ei gyfer, gall y Rheolwyr derfynu&#8217;r cytundeb ac wedyn dod \u00e2 gweithgareddau i ben, mynnu bod y Llogwr yn gadael, a chau&#8217;r safle.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(c) Nid yw\u2019r Cyngor yn rhoi unrhyw warant bod y Safle yn gyfreithiol nac yn ffisegol addas at y diben a nodwyd ac ni fynegir nac awgrymir gwarant o ran cyflwr y Safle nac unrhyw offer a roddir gan y Cyngor.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(d) Mae\u2019r Llogwr yn cydnabod bod y Cyngor yn cadw ar bob adeg berchnogaeth gyfreithiol ar y Safle a bydd gan y Cyngor, a phawb a awdurdodir ganddo, hawl ar bob adeg i fynd i mewn i\u2019r Safle, i fod yno, ac i ddefnyddio gweddill yr eiddo at unrhyw ddiben.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(e) Ni ellir is-logi\u2019r safle sydd wedi ei archebu ac nid oes gan y Llogwr hawl i drosglwyddo cyfrifoldeb dros yr archeb heb ganiat\u00e2d y Rheolwr.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(f) Y Llogwr sy&#8217;n gyfrifol am sicrhau y gweithredir mesurau iechyd a diogelwch addas yn ystod digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cystadleuwyr a gwylwyr yn cael eu goruchwylio\u2019n ddigonol gan swyddog cymwys.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Bydd y Llogwr yn cydymffurfio \u00e2 pholis\u00efau Iechyd a Diogelwch y Cyngor o ran y canlynol:-<\/div>\n<div>Polisi diogelwch offer chwarae meddal<\/div>\n<div>Mae sesiynau chwarae meddal a logir yn breifat ar gyfer plant dan 6 oed yn unig.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Cymarebau goruchwylio oedolion i blant<\/div>\n<div>Bydd hyn yn cynnwys o leiaf 2 oedolyn ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o blant, ynghyd ag 1 oedolyn ar gyfer pob 10 o blant sy&#8217;n ychwanegol at yr 20 cyntaf.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Os yw iechyd a diogelwch, ym marn y Rheolwr, yn cael eu peryglu naill ai cyn neu yn ystod digwyddiad, mae ganddo\u2019r hawl i atal unrhyw gyfarfodydd a\/neu ganslo&#8217;r digwyddiad hwnnw.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(g) Ni chaniateir ysmygu neu f\u00eapio yn yr adeilad.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(h) Mae&#8217;r taliadau sy&#8217;n daladwy gan y Llogwr yn cynnwys defnyddio&#8217;r amwynderau a holl wasanaethau Rheolwr Cynorthwyol, Cynorthwywyr y Ganolfan a Derbynyddion. Bydd staff y cyfleuster yn paratoi ac yn trefnu\u2019r offer i\u2019w ddefnyddio cyn y digwyddiad, ond os bydd angen unrhyw wasanaethau ychwanegol, rhaid i\u2019r Llogwr drefnu\u2019r rhain. Os na ellir sicrhau gweithwyr ychwanegol digonol, efallai y bydd modd cael y gweithwyr hynny drwy&#8217;r Rheolwr ond bydd cyflogau\u2019r gweithwyr hynny a&#8217;r holl gostau sy&#8217;n gysylltiedig yn cael eu codi ar y Llogwr.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>5. Amseroedd Archeb<\/h2>\n<div>(a) Bydd y rhain yn cynnwys amser i baratoi a glanhau. Oni nodir fel arall, bydd amser rhesymol yn cael ei ychwanegu at hyd gwirioneddol rhaglen y digwyddiad i sicrhau amser i gyflawni gweithgareddau paratoi a glanhau. Dim ond drwy gytundeb y Rheolwr ceir cynnal gweithgareddau paratoi cyn amser yr archeb.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(b) Dylai digwyddiadau ddechrau a gorffen ar yr amser y cytunwyd arno gyda&#8217;r Rheolwr, a hynny o fewn y cyfnod llogi. Codir t\u00e2l fesul awr (neu ran ohoni) ar logwyr sy\u2019n mynd dros yr amser y cytunwyd arno yn ogystal \u00e2 chyflogau\u2019r staff ar y gyfradd briodol.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>6. Difrod<\/h2>\n<div>Bydd y Llogwr yn talu am unrhyw ddifrod a achosir gan y personau y mae\u2019r Llogwr yn gyfrifol amdanynt (gan gynnwys holl westeion y Llogwr) i\u2019r safle neu i unrhyw offer ar y safle yn ystod y cyfnod llogi.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>7. Rheolaeth<\/h2>\n<div>Bydd y Llogwr yn bresennol bob adeg yn ystod y cyfnod llogi a bydd yn gyfrifol am ymddygiad priodol y gr\u0175p. Pan fo\u2019n briodol, bydd y Llogwr yn gyfrifol am gydymffurfio \u00e2\u2019r holl ofynion amddiffyn plant a nodir yn Neddf Plant 2004. Gallai fod angen copi o gyfansoddiad y Gr\u0175p\/Clwb hefyd.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>8. Mynd i Mewn i\u2019r Safle<\/h2>\n<div>Mae\u2019r Rheolwyr yn cadw\u2019r hawl, yn \u00f4l eu disgresiwn, i beidio \u00e2 gadael i unrhyw berson fynd i mewn i\u2019r safle.\u00a0 Bydd gan y Rheolwyr yr hawl i wahardd unrhyw berson meddw, afreolus neu sydd wedi gwisgo\u2019n amhriodol.\u00a0 Oni chytunir fel arall, codir ffi fynediad ar yr holl wylwyr \/ cyfranogwyr.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>9. Mynediad<\/h2>\n<div>Yn amodol ar ddarpariaethau\u2019r Amodau hyn, bydd swyddogion a awdurdodir gan y Cyngor yn gallu cael mynediad i\u2019r Safle wedi\u2019i logi ar bob adeg.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>10. Indemniad<\/h2>\n<div>Bydd y Llogwr yn indemnio\u2019r Cyngor yn erbyn pob hawliad am ddifrod, iawndal a\/neu gostau mewn perthynas ag anaf (marwol neu fel arall) a\/neu ddifrod i eiddo unrhyw berson a achoswyd gan ddigwyddiad a oedd yn gysylltiedig \u00e2 defnydd y Llogwr o\u2019r safle hwn. Bydd y Llogwr yn gyfrifol am gyflenwi cop\u00efau o Gymwysterau Hyfforddi cydnabyddedig ynghyd \u00e2 dogfennaeth aelodaeth briodol o\u2019r Corff Llywodraethu Chwaraeon perthnasol. Efallai y bydd angen cop\u00efau o Dystysgrifau Yswiriant y Llogwr hefyd.<\/div>\n<div>Mae\u2019r Llogwr yn defnyddio\u2019r safle a\u2019r offer ar ei fenter ei hun yn llwyr ac ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw farwolaeth, anaf na difrod i bersonau neu eiddo, nac am eitemau wedi\u2019u colli neu eu dwyn, nac yn atebol mewn unrhyw ffordd arall i\u2019r Llogwr, ei westeion neu drydydd part\u00efon.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>11. Eiddo\u2019r Llogwr<\/h2>\n<div>Ni fydd y Cyngor na\u2019i gyflogeion yn gyfrifol am unrhyw ddifrod neu golled mewn perthynas ag eiddo\u2019r Llogwr, nac unrhyw berson a ganiateir iddo fynd i mewn i\u2019r safle yn ystod y cyfnod llogi.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>12. Defnyddio offer trydanol<\/h2>\n<div>Ni chaniateir i\u2019r Llogwr ddefnyddio ei offer trydanol ei hun heb ganiat\u00e2d y Rheolwr. Rhaid i\u2019r holl offer trydanol fod yn ddiogel yn drydanol ac yn addas at y diben y caiff ei ddefnyddio.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>13. Gwirodydd a lluniaeth<\/h2>\n<div>Ni chaniateir i unrhyw un ddod \u00e2 gwirodydd meddwol na lluniaeth i\u2019r safle, na\u2019u gwerthu na\u2019u hyfed\/bwyta yn y safle heb ganiat\u00e2d y Cyngor.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>14. S\u0175n<\/h2>\n<div>Ni ddylid defnyddio peiriannau chwarae cerddoriaeth, offer seinchwyddo neu offer tebyg heb ganiat\u00e2d y Rheolwr ymlaen llaw.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>15. Costau<\/h2>\n<div>Y costau am ddefnyddio\u2019r cyfleusterau fydd y costau sy\u2019n berthnasol ar yr adeg y mae\u2019r Llogwr yn defnyddio\u2019r cyfleusterau.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>16. Casgliadau a Loter\u00efau<\/h2>\n<div>Ni chaniateir cynnal unrhyw gasgliadau, gemau hapchwarae, rasys loteri na loter\u00efau, neu unrhyw fetio heb ganiat\u00e2d y Rheolwr ymlaen llaw.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>17. Rhagofalon T\u00e2n<\/h2>\n<div>Ni ddylid defnyddio sylweddau fflamadwy iawn ar y safle heb ganiat\u00e2d y Rheolwr, a fydd yn gosod unrhyw amodau defnyddio \/ storio sy\u2019n angenrheidiol yn ei farn ef \/ hi, er mwyn sicrhau nad yw safonau iechyd a diogelwch yn cael eu peryglu.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>18. Cymorth Cyntaf<\/h2>\n<div>Oni chytunir fel arall, bydd y Rheolwr yn gyfrifol am drefnu cymorth cyntaf priodol. Bydd y ffioedd ar gyfer cymorth cyntaf yn cael eu cynnwys yn yr hyn a godir ar y Llogwr.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>19. Parcio Ceir<\/h2>\n<div>Nid yw&#8217;r meysydd parcio ger y cyfleuster wedi&#8217;u cynnwys yn y llogi ac maent yn parhau dan reolaeth y Cyngor a all godi t\u00e2l ar wylwyr am eu defnyddio yn \u00f4l ei ddisgresiwn a chadw&#8217;r holl ffioedd a godir. Nid yw&#8217;r Cyngor yn honni na\u2019n gwarantu diogelwch y maes parcio ac mae perchenogion yn gadael eu cerbydau modur ar eu menter eu hunain.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>20. Darlledu\/Teledu\/Fideos neu Ffotograffau<\/h2>\n<div>Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chaiff unrhyw weithwyr darlledu na theledu, na phersonau cysylltiedig, fynd i mewn i\u2019r safle at ddibenion darlledu cyffredinol neu ddarlledu ar y teledu, nac i dynnu ffotograffau heb ganiat\u00e2d ymlaen llaw gan Reolwr y safle. Gwaherddir ffotograffiaeth o unrhyw fath ym mhob cyfleuster heb ganiat\u00e2d pendant y Rheolwr.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>21. Hysbysebu<\/h2>\n<div>Mae&#8217;r Llogwr a \/ neu unrhyw bersonau sy&#8217;n gweithredu ar ran y Llogwr drwy hyn yn cytuno ac yn cydnabod na chaniateir iddynt:-<\/div>\n<div>(i) arddangos unrhyw le unrhyw fath o hysbyseb sy&#8217;n hyrwyddo&#8217;r safle, digwyddiad neu adloniant ar y safle, mewn modd anghyfreithlon neu heb y caniat\u00e2d gofynnol, neu<\/div>\n<div>(ii) osod neu arddangos unrhyw fath o hysbyseb yn neu ar unrhyw ran o&#8217;r safle neu&#8217;r tir y mae&#8217;r safle wedi ei leoli arno oni bai bod caniat\u00e2d ysgrifenedig ymlaen llaw wedi\u2019i gael gan Reolwr y Cyngor sy&#8217;n gyfrifol am y safle.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Mae&#8217;r Llogwr a \/ neu unrhyw bersonau sy&#8217;n gweithredu ar ran y Llogwr yn cydnabod pryderon y Cyngor ynghylch gosod posteri&#8217;n anghyfreithlon a thrwy hyn yn cytuno na fyddant yn gosod posteri&#8217;n anghyfreithlon nac yn gwneud unrhyw drefniadau i unrhyw drydydd parti gynnal gweithgareddau o&#8217;r fath ar eu rhan mewn perthynas \u00e2\u2019r digwyddiad. Bydd gan y Cyngor hawl i derfynu&#8217;r cytundeb os torrir y darpariaethau uchod.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>22. Gwerthu Nwyddau \/ Gwasanaethau<\/h2>\n<div>Mae\u2019r Cyngor yn cadw\u2019r hawl i ganiat\u00e1u i Fasnachwyr fynd i mewn i\u2019r safle at ddibenion gwerthu nwyddau \/ gwasanaethau.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>23. Mae\u2019r Llogwr yn gyfrifol am:-<\/h2>\n<div>(a) Fynd i\u2019r cyfleuster o leiaf 14 diwrnod cyn y dyddiad llogi i drafod trefniadau gyda\u2019r Rheolwr. Ar yr adeg hon bydd y Llogwr yn cyflwyno amserlen sy\u2019n dangos trefn ac amseroedd y digwyddiadau, rhestr o offer a rhestr o weithwyr hanfodol.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(b) Gweinyddu, trefnu, stiwardio (fel y nodir yn Neddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1988) a chynnal digwyddiad penodol. Gellir gwneud trefniadau arbennig yn \u00f4l disgresiwn y Rheolwr gyda&#8217;r Rheolwr am gymorth penodol y codir t\u00e2l amdano, ond nid cyfrifoldeb y Rheolwr yw cynnal digwyddiadau.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>24. Polisi Cyfle Cyfartal<\/h2>\n<div>(a) Ni fydd y Llogwr yn gwahaniaethu&#8217;n uniongyrchol neu&#8217;n anuniongyrchol yn erbyn unrhyw berson oherwydd ei liw, ei hil, ei genedligrwydd, ei darddiad cenedlaethol neu ethnig, na&#8217;i ryw neu\u2019i gyfeiriadedd rhywiol, neu oherwydd unrhyw anabledd neu analluogrwydd mewn perthynas \u00e2 darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau neu fynediad i&#8217;r rheiny, neu drwy wrthod neu beidio \u00e2 darparu&#8217;n fwriadol y nwyddau, y cyfleusterau neu\u2019r gwasanaethau hynny ar yr un ansawdd, yn yr un modd ac ar yr un telerau fel sy&#8217;n arferol mewn cysylltiad \u00e2\u2019r llogi.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(b) Ni fydd y Llogwr yn cyhoeddi nac yn achosi cyhoeddi mewn cysylltiad \u00e2\u2019r llogi unrhyw hysbyseb, taflen, dogfen neu fath arall o gyhoeddusrwydd sy&#8217;n nodi neu y gellid deall yn rhesymol ei fod yn nodi bwriad gan berson i gyflawni gweithred o wahaniaethu p\u2019un ai a fyddai\u2019r weithred honno ganddo yn gyfreithlon neu&#8217;n anghyfreithlon ac a fyddai&#8217;r weithred honno\u2019n golygu mynd yn groes i baragraff blaenorol y cymal hwn ai peidio.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(c) Yn y cymal hwn, mae arfer gwahaniaethol yn golygu cymhwyso gofyniad neu amod sy&#8217;n arwain at weithred o wahaniaethu, neu a fyddai&#8217;n debygol o arwain at weithred o wahaniaethu neu unrhyw un o&#8217;r mathau y cyfeirir atynt ym mharagraff (I) y cymal hwn.\u00a0 Bydd y Llogwr yn cyflawni gweithred o wahaniaethu os bydd yn cymhwyso arfer gwahaniaethol neu os bydd yn gweithredu arferion neu drefniadau eraill, a fyddai mewn unrhyw amgylchiadau yn galw am arfer gwahaniaethol ganddo.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(d) Bydd y Llogwr yn cadw at ofynion Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a lle bo&#8217;n berthnasol, bydd yn cadw at God Ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fel y cymeradwywyd gan y Senedd ym 1983.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(e) Bydd y Llogwr yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw berson y mae&#8217;n gyfrifol amdano mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r llogi\u2019n cadw at ofynion y cymal hwn.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>(f) Os bydd y Rheolwr yn ffurfio&#8217;r farn bod y Llogwr neu unrhyw un y mae&#8217;n gyfrifol amdano wedi torri darpariaethau&#8217;r cymal hwn, gall y Rheolwr derfynu&#8217;r llogi ar unwaith a gofyn i&#8217;r Llogwr adael y Cyfleuster ar unwaith, ar yr amod y bydd cyfrifoldebau&#8217;r Llogwr am unrhyw daliad dan yr Amodau Llogi yn parhau, ac ni fydd angen i&#8217;r Cyngor ad-dalu i&#8217;r Llogwr unrhyw daliadau a wnaed mewn cysylltiad \u00e2 llogi&#8217;r Cyfleuster.<\/div>\n<h2><\/h2>\n<h2>25. GDPR<\/h2>\n<div>Caiff unrhyw ddata a roddir gennych ei ddiogelu\u2019n unol \u00e2 gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac wrth ei roi rydych yn caniat\u00e1u i\u2019r Cyngor ei brosesu at y diben y\u2019i rhoddir.\u00a0 Bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a dim ond at ddibenion a ganiateir gan y gyfraith y bydd y Cyngor yn ei defnyddio neu ei datgelu i eraill. Bydd data&#8217;n cael ei gadw am flwyddyn ar \u00f4l canslo aelodaeth.<\/div>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_custom_heading source=&#8221;post_title&#8221; font_container=&#8221;tag:h1|text_align:left&#8221; use_theme_fonts=&#8221;yes&#8221;][vc_column_text] 1. Amodau (a) Yn yr amodau hyn mae \u201cLlogwr\u201d yn golygu\u2019r person sy\u2019n llofnodi\u2019r ffurflen gytundeb ac yn cynnwys y sefydliad y mae\u2019r cais yn cael ei wneud ar ei ran.\u00a0 Mae \u201cCyngor\u201d yn golygu Cyngor Dinas Caerdydd. Mae \u201cRheolwyr\u201d neu \u201cRheolwr\u201d yn golygu Swyddog y Cyngor sy\u2019n gyfrifol am y safle yn ystod yr archeb. Mae \u201cSafle\u201d yn golygu\u2019r ystafelloedd\/cyfleusterau\/offer y cyfeirir atynt yn y cytundeb eglurhaol.\u00a0 \u00a0Mae \u201cTaliad\u201d yn golygu\u2019r swm sydd i\u2019w dalu gan y llogwr fel y nodir yn y cytundeb eglurhaol am ddefnyddio\u2019r safle. (b) Ni chaiff y safle ei logi oni dderbynnir ffurflen archebu swyddogol y Cyngor, wedi\u2019i llofnodi gan y Llogwr. 2. Taliad Bydd y Llogwr yn talu\u2019r taliad i&#8217;r Cyngor ar \u00f4l i&#8217;r Llogwr dderbyn anfoneb swyddogol a chaiff y Taliad hwnnw ei dalu cyn i\u2019r safle gael ei ddefnyddio. 3. Canslo (a) Gan y Llogwr:- (i) Archebion achlysurol unigol wedi&#8217;u gwneud ar gyfer Cae 3G dan do ac awyr agored. Bydd unrhyw achos o ganslo na roddir gwybod amdano dros y ff\u00f4n neu&#8217;n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn yr archeb, oni bai y gellir llogi\u2019r cyfleuster i rywun arall, yn gorfod talu&#8217;r ffi logi lawn. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1004","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Amodau Llogi - CF11 Ffitrwydd<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Amodau Llogi - CF11 Ffitrwydd\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_custom_heading source=&#8221;post_title&#8221; font_container=&#8221;tag:h1|text_align:left&#8221; use_theme_fonts=&#8221;yes&#8221;][vc_column_text] 1. Amodau (a) Yn yr amodau hyn mae \u201cLlogwr\u201d yn golygu\u2019r person sy\u2019n llofnodi\u2019r ffurflen gytundeb ac yn cynnwys y sefydliad y mae\u2019r cais yn cael ei wneud ar ei ran.\u00a0 Mae \u201cCyngor\u201d yn golygu Cyngor Dinas Caerdydd. Mae \u201cRheolwyr\u201d neu \u201cRheolwr\u201d yn golygu Swyddog y Cyngor sy\u2019n gyfrifol am y safle yn ystod yr archeb. Mae \u201cSafle\u201d yn golygu\u2019r ystafelloedd\/cyfleusterau\/offer y cyfeirir atynt yn y cytundeb eglurhaol.\u00a0 \u00a0Mae \u201cTaliad\u201d yn golygu\u2019r swm sydd i\u2019w dalu gan y llogwr fel y nodir yn y cytundeb eglurhaol am ddefnyddio\u2019r safle. (b) Ni chaiff y safle ei logi oni dderbynnir ffurflen archebu swyddogol y Cyngor, wedi\u2019i llofnodi gan y Llogwr. 2. Taliad Bydd y Llogwr yn talu\u2019r taliad i&#8217;r Cyngor ar \u00f4l i&#8217;r Llogwr dderbyn anfoneb swyddogol a chaiff y Taliad hwnnw ei dalu cyn i\u2019r safle gael ei ddefnyddio. 3. Canslo (a) Gan y Llogwr:- (i) Archebion achlysurol unigol wedi&#8217;u gwneud ar gyfer Cae 3G dan do ac awyr agored. Bydd unrhyw achos o ganslo na roddir gwybod amdano dros y ff\u00f4n neu&#8217;n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn yr archeb, oni bai y gellir llogi\u2019r cyfleuster i rywun arall, yn gorfod talu&#8217;r ffi logi lawn. [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"CF11 Ffitrwydd\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-02-20T15:34:29+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/conditions-of-hire\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/conditions-of-hire\\\/\",\"name\":\"Amodau Llogi - CF11 Ffitrwydd\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2024-02-20T10:31:27+00:00\",\"dateModified\":\"2024-02-20T15:34:29+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/conditions-of-hire\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/conditions-of-hire\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/conditions-of-hire\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Amodau Llogi\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/\",\"name\":\"CF11 Ffitrwydd\",\"description\":\"Equipped with the latest state-of-the-art TechnoGym equipment\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/cf11fitness.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Amodau Llogi - CF11 Ffitrwydd","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Amodau Llogi - CF11 Ffitrwydd","og_description":"[vc_row][vc_column width=&#8221;1\/1&#8243;][vc_custom_heading source=&#8221;post_title&#8221; font_container=&#8221;tag:h1|text_align:left&#8221; use_theme_fonts=&#8221;yes&#8221;][vc_column_text] 1. Amodau (a) Yn yr amodau hyn mae \u201cLlogwr\u201d yn golygu\u2019r person sy\u2019n llofnodi\u2019r ffurflen gytundeb ac yn cynnwys y sefydliad y mae\u2019r cais yn cael ei wneud ar ei ran.\u00a0 Mae \u201cCyngor\u201d yn golygu Cyngor Dinas Caerdydd. Mae \u201cRheolwyr\u201d neu \u201cRheolwr\u201d yn golygu Swyddog y Cyngor sy\u2019n gyfrifol am y safle yn ystod yr archeb. Mae \u201cSafle\u201d yn golygu\u2019r ystafelloedd\/cyfleusterau\/offer y cyfeirir atynt yn y cytundeb eglurhaol.\u00a0 \u00a0Mae \u201cTaliad\u201d yn golygu\u2019r swm sydd i\u2019w dalu gan y llogwr fel y nodir yn y cytundeb eglurhaol am ddefnyddio\u2019r safle. (b) Ni chaiff y safle ei logi oni dderbynnir ffurflen archebu swyddogol y Cyngor, wedi\u2019i llofnodi gan y Llogwr. 2. Taliad Bydd y Llogwr yn talu\u2019r taliad i&#8217;r Cyngor ar \u00f4l i&#8217;r Llogwr dderbyn anfoneb swyddogol a chaiff y Taliad hwnnw ei dalu cyn i\u2019r safle gael ei ddefnyddio. 3. Canslo (a) Gan y Llogwr:- (i) Archebion achlysurol unigol wedi&#8217;u gwneud ar gyfer Cae 3G dan do ac awyr agored. Bydd unrhyw achos o ganslo na roddir gwybod amdano dros y ff\u00f4n neu&#8217;n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn yr archeb, oni bai y gellir llogi\u2019r cyfleuster i rywun arall, yn gorfod talu&#8217;r ffi logi lawn. [&hellip;]","og_url":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/","og_site_name":"CF11 Ffitrwydd","article_modified_time":"2024-02-20T15:34:29+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/","url":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/","name":"Amodau Llogi - CF11 Ffitrwydd","isPartOf":{"@id":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/#website"},"datePublished":"2024-02-20T10:31:27+00:00","dateModified":"2024-02-20T15:34:29+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/conditions-of-hire\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Amodau Llogi"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/#website","url":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/","name":"CF11 Ffitrwydd","description":"Equipped with the latest state-of-the-art TechnoGym equipment","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1004","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1004"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1004\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1024,"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1004\/revisions\/1024"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cf11fitness.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1004"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}