Amodau Llogi

1. Amodau

(a) Yn yr amodau hyn mae “Llogwr” yn golygu’r person sy’n llofnodi’r ffurflen gytundeb ac yn cynnwys y sefydliad y mae’r cais yn cael ei wneud ar ei ran.  Mae “Cyngor” yn golygu Cyngor Dinas Caerdydd. Mae “Rheolwyr” neu “Rheolwr” yn golygu Swyddog y Cyngor sy’n gyfrifol am y safle yn ystod yr archeb. Mae “Safle” yn golygu’r ystafelloedd/cyfleusterau/offer y cyfeirir atynt yn y cytundeb eglurhaol.   Mae “Taliad” yn golygu’r swm sydd i’w dalu gan y llogwr fel y nodir yn y cytundeb eglurhaol am ddefnyddio’r safle.
(b) Ni chaiff y safle ei logi oni dderbynnir ffurflen archebu swyddogol y Cyngor, wedi’i llofnodi gan y Llogwr.

2. Taliad

Bydd y Llogwr yn talu’r taliad i’r Cyngor ar ôl i’r Llogwr dderbyn anfoneb swyddogol a chaiff y Taliad hwnnw ei dalu cyn i’r safle gael ei ddefnyddio.

3. Canslo

(a) Gan y Llogwr:-
(i) Archebion achlysurol unigol wedi’u gwneud ar gyfer Cae 3G dan do ac awyr agored.
Bydd unrhyw achos o ganslo na roddir gwybod amdano dros y ffôn neu’n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn yr archeb, oni bai y gellir llogi’r cyfleuster i rywun arall, yn gorfod talu’r ffi logi lawn.
(ii) Pob archeb arall
Rhaid canslo’n ysgrifenedig o leiaf 28 diwrnod cyn yr archeb.  Os bydd y Llogwr yn methu â rhoi 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig, codir y ffi logi lawn ar y Llogwr am yr holl ardaloedd a chyfleusterau nad oes modd eu llogi i rywun arall.
(b) Gan y Cyngor
Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ganslo neu gau’r cyfleuster ar gyfer Digwyddiadau Arbennig ac amgylchiadau eraill nad yw’n gallu eu rheoli.  Caiff arian wedi’i dalu ar gyfer archeb ei ad-dalu yn yr achos hwn.

4. Defnyddio’r Safle

(a) Cyn dechrau’r cyfnod llogi, bydd Swyddog y Cyngor yn archwilio’r safle i wirio ei gyflwr a bydd unrhyw gofnod a wneir yn dystiolaeth derfynol o gyflwr y safle at ddiben y cytundeb hwn.
(b) Gall y Llogwr ddefnyddio’r safle at y diben a nodir yn y cytundeb eglurhaol, ond nid at unrhyw ddiben arall dan unrhyw amgylchiadau. Os caiff ei ddefnyddio gan y Llogwr, neu unrhyw berson y mae’r Llogwr yn gyfrifol amdano (gan gynnwys unrhyw berson sy’n mynd i’r safle fel gwestai i’r Llogwr) at ddiben ar wahân i’r diben y llogwyd y safle ar ei gyfer, gall y Rheolwyr derfynu’r cytundeb ac wedyn dod â gweithgareddau i ben, mynnu bod y Llogwr yn gadael, a chau’r safle.
(c) Nid yw’r Cyngor yn rhoi unrhyw warant bod y Safle yn gyfreithiol nac yn ffisegol addas at y diben a nodwyd ac ni fynegir nac awgrymir gwarant o ran cyflwr y Safle nac unrhyw offer a roddir gan y Cyngor.
(d) Mae’r Llogwr yn cydnabod bod y Cyngor yn cadw ar bob adeg berchnogaeth gyfreithiol ar y Safle a bydd gan y Cyngor, a phawb a awdurdodir ganddo, hawl ar bob adeg i fynd i mewn i’r Safle, i fod yno, ac i ddefnyddio gweddill yr eiddo at unrhyw ddiben.
(e) Ni ellir is-logi’r safle sydd wedi ei archebu ac nid oes gan y Llogwr hawl i drosglwyddo cyfrifoldeb dros yr archeb heb ganiatâd y Rheolwr.
(f) Y Llogwr sy’n gyfrifol am sicrhau y gweithredir mesurau iechyd a diogelwch addas yn ystod digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cystadleuwyr a gwylwyr yn cael eu goruchwylio’n ddigonol gan swyddog cymwys.
Bydd y Llogwr yn cydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch y Cyngor o ran y canlynol:-
Polisi diogelwch offer chwarae meddal
Mae sesiynau chwarae meddal a logir yn breifat ar gyfer plant dan 6 oed yn unig.
Cymarebau goruchwylio oedolion i blant
Bydd hyn yn cynnwys o leiaf 2 oedolyn ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o blant, ynghyd ag 1 oedolyn ar gyfer pob 10 o blant sy’n ychwanegol at yr 20 cyntaf.
Os yw iechyd a diogelwch, ym marn y Rheolwr, yn cael eu peryglu naill ai cyn neu yn ystod digwyddiad, mae ganddo’r hawl i atal unrhyw gyfarfodydd a/neu ganslo’r digwyddiad hwnnw.
(g) Ni chaniateir ysmygu neu fêpio yn yr adeilad.
(h) Mae’r taliadau sy’n daladwy gan y Llogwr yn cynnwys defnyddio’r amwynderau a holl wasanaethau Rheolwr Cynorthwyol, Cynorthwywyr y Ganolfan a Derbynyddion. Bydd staff y cyfleuster yn paratoi ac yn trefnu’r offer i’w ddefnyddio cyn y digwyddiad, ond os bydd angen unrhyw wasanaethau ychwanegol, rhaid i’r Llogwr drefnu’r rhain. Os na ellir sicrhau gweithwyr ychwanegol digonol, efallai y bydd modd cael y gweithwyr hynny drwy’r Rheolwr ond bydd cyflogau’r gweithwyr hynny a’r holl gostau sy’n gysylltiedig yn cael eu codi ar y Llogwr.

5. Amseroedd Archeb

(a) Bydd y rhain yn cynnwys amser i baratoi a glanhau. Oni nodir fel arall, bydd amser rhesymol yn cael ei ychwanegu at hyd gwirioneddol rhaglen y digwyddiad i sicrhau amser i gyflawni gweithgareddau paratoi a glanhau. Dim ond drwy gytundeb y Rheolwr ceir cynnal gweithgareddau paratoi cyn amser yr archeb.
(b) Dylai digwyddiadau ddechrau a gorffen ar yr amser y cytunwyd arno gyda’r Rheolwr, a hynny o fewn y cyfnod llogi. Codir tâl fesul awr (neu ran ohoni) ar logwyr sy’n mynd dros yr amser y cytunwyd arno yn ogystal â chyflogau’r staff ar y gyfradd briodol.

6. Difrod

Bydd y Llogwr yn talu am unrhyw ddifrod a achosir gan y personau y mae’r Llogwr yn gyfrifol amdanynt (gan gynnwys holl westeion y Llogwr) i’r safle neu i unrhyw offer ar y safle yn ystod y cyfnod llogi.

7. Rheolaeth

Bydd y Llogwr yn bresennol bob adeg yn ystod y cyfnod llogi a bydd yn gyfrifol am ymddygiad priodol y grŵp. Pan fo’n briodol, bydd y Llogwr yn gyfrifol am gydymffurfio â’r holl ofynion amddiffyn plant a nodir yn Neddf Plant 2004. Gallai fod angen copi o gyfansoddiad y Grŵp/Clwb hefyd.

8. Mynd i Mewn i’r Safle

Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl, yn ôl eu disgresiwn, i beidio â gadael i unrhyw berson fynd i mewn i’r safle.  Bydd gan y Rheolwyr yr hawl i wahardd unrhyw berson meddw, afreolus neu sydd wedi gwisgo’n amhriodol.  Oni chytunir fel arall, codir ffi fynediad ar yr holl wylwyr / cyfranogwyr.

9. Mynediad

Yn amodol ar ddarpariaethau’r Amodau hyn, bydd swyddogion a awdurdodir gan y Cyngor yn gallu cael mynediad i’r Safle wedi’i logi ar bob adeg.

10. Indemniad

Bydd y Llogwr yn indemnio’r Cyngor yn erbyn pob hawliad am ddifrod, iawndal a/neu gostau mewn perthynas ag anaf (marwol neu fel arall) a/neu ddifrod i eiddo unrhyw berson a achoswyd gan ddigwyddiad a oedd yn gysylltiedig â defnydd y Llogwr o’r safle hwn. Bydd y Llogwr yn gyfrifol am gyflenwi copïau o Gymwysterau Hyfforddi cydnabyddedig ynghyd â dogfennaeth aelodaeth briodol o’r Corff Llywodraethu Chwaraeon perthnasol. Efallai y bydd angen copïau o Dystysgrifau Yswiriant y Llogwr hefyd.
Mae’r Llogwr yn defnyddio’r safle a’r offer ar ei fenter ei hun yn llwyr ac ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw farwolaeth, anaf na difrod i bersonau neu eiddo, nac am eitemau wedi’u colli neu eu dwyn, nac yn atebol mewn unrhyw ffordd arall i’r Llogwr, ei westeion neu drydydd partïon.

11. Eiddo’r Llogwr

Ni fydd y Cyngor na’i gyflogeion yn gyfrifol am unrhyw ddifrod neu golled mewn perthynas ag eiddo’r Llogwr, nac unrhyw berson a ganiateir iddo fynd i mewn i’r safle yn ystod y cyfnod llogi.

12. Defnyddio offer trydanol

Ni chaniateir i’r Llogwr ddefnyddio ei offer trydanol ei hun heb ganiatâd y Rheolwr. Rhaid i’r holl offer trydanol fod yn ddiogel yn drydanol ac yn addas at y diben y caiff ei ddefnyddio.

13. Gwirodydd a lluniaeth

Ni chaniateir i unrhyw un ddod â gwirodydd meddwol na lluniaeth i’r safle, na’u gwerthu na’u hyfed/bwyta yn y safle heb ganiatâd y Cyngor.

14. Sŵn

Ni ddylid defnyddio peiriannau chwarae cerddoriaeth, offer seinchwyddo neu offer tebyg heb ganiatâd y Rheolwr ymlaen llaw.

15. Costau

Y costau am ddefnyddio’r cyfleusterau fydd y costau sy’n berthnasol ar yr adeg y mae’r Llogwr yn defnyddio’r cyfleusterau.

16. Casgliadau a Loterïau

Ni chaniateir cynnal unrhyw gasgliadau, gemau hapchwarae, rasys loteri na loterïau, neu unrhyw fetio heb ganiatâd y Rheolwr ymlaen llaw.

17. Rhagofalon Tân

Ni ddylid defnyddio sylweddau fflamadwy iawn ar y safle heb ganiatâd y Rheolwr, a fydd yn gosod unrhyw amodau defnyddio / storio sy’n angenrheidiol yn ei farn ef / hi, er mwyn sicrhau nad yw safonau iechyd a diogelwch yn cael eu peryglu.

18. Cymorth Cyntaf

Oni chytunir fel arall, bydd y Rheolwr yn gyfrifol am drefnu cymorth cyntaf priodol. Bydd y ffioedd ar gyfer cymorth cyntaf yn cael eu cynnwys yn yr hyn a godir ar y Llogwr.

19. Parcio Ceir

Nid yw’r meysydd parcio ger y cyfleuster wedi’u cynnwys yn y llogi ac maent yn parhau dan reolaeth y Cyngor a all godi tâl ar wylwyr am eu defnyddio yn ôl ei ddisgresiwn a chadw’r holl ffioedd a godir. Nid yw’r Cyngor yn honni na’n gwarantu diogelwch y maes parcio ac mae perchenogion yn gadael eu cerbydau modur ar eu menter eu hunain.

20. Darlledu/Teledu/Fideos neu Ffotograffau

Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chaiff unrhyw weithwyr darlledu na theledu, na phersonau cysylltiedig, fynd i mewn i’r safle at ddibenion darlledu cyffredinol neu ddarlledu ar y teledu, nac i dynnu ffotograffau heb ganiatâd ymlaen llaw gan Reolwr y safle. Gwaherddir ffotograffiaeth o unrhyw fath ym mhob cyfleuster heb ganiatâd pendant y Rheolwr.

21. Hysbysebu

Mae’r Llogwr a / neu unrhyw bersonau sy’n gweithredu ar ran y Llogwr drwy hyn yn cytuno ac yn cydnabod na chaniateir iddynt:-
(i) arddangos unrhyw le unrhyw fath o hysbyseb sy’n hyrwyddo’r safle, digwyddiad neu adloniant ar y safle, mewn modd anghyfreithlon neu heb y caniatâd gofynnol, neu
(ii) osod neu arddangos unrhyw fath o hysbyseb yn neu ar unrhyw ran o’r safle neu’r tir y mae’r safle wedi ei leoli arno oni bai bod caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw wedi’i gael gan Reolwr y Cyngor sy’n gyfrifol am y safle.
Mae’r Llogwr a / neu unrhyw bersonau sy’n gweithredu ar ran y Llogwr yn cydnabod pryderon y Cyngor ynghylch gosod posteri’n anghyfreithlon a thrwy hyn yn cytuno na fyddant yn gosod posteri’n anghyfreithlon nac yn gwneud unrhyw drefniadau i unrhyw drydydd parti gynnal gweithgareddau o’r fath ar eu rhan mewn perthynas â’r digwyddiad. Bydd gan y Cyngor hawl i derfynu’r cytundeb os torrir y darpariaethau uchod.

22. Gwerthu Nwyddau / Gwasanaethau

Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ganiatáu i Fasnachwyr fynd i mewn i’r safle at ddibenion gwerthu nwyddau / gwasanaethau.

23. Mae’r Llogwr yn gyfrifol am:-

(a) Fynd i’r cyfleuster o leiaf 14 diwrnod cyn y dyddiad llogi i drafod trefniadau gyda’r Rheolwr. Ar yr adeg hon bydd y Llogwr yn cyflwyno amserlen sy’n dangos trefn ac amseroedd y digwyddiadau, rhestr o offer a rhestr o weithwyr hanfodol.
(b) Gweinyddu, trefnu, stiwardio (fel y nodir yn Neddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1988) a chynnal digwyddiad penodol. Gellir gwneud trefniadau arbennig yn ôl disgresiwn y Rheolwr gyda’r Rheolwr am gymorth penodol y codir tâl amdano, ond nid cyfrifoldeb y Rheolwr yw cynnal digwyddiadau.

24. Polisi Cyfle Cyfartal

(a) Ni fydd y Llogwr yn gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn unrhyw berson oherwydd ei liw, ei hil, ei genedligrwydd, ei darddiad cenedlaethol neu ethnig, na’i ryw neu’i gyfeiriadedd rhywiol, neu oherwydd unrhyw anabledd neu analluogrwydd mewn perthynas â darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau neu fynediad i’r rheiny, neu drwy wrthod neu beidio â darparu’n fwriadol y nwyddau, y cyfleusterau neu’r gwasanaethau hynny ar yr un ansawdd, yn yr un modd ac ar yr un telerau fel sy’n arferol mewn cysylltiad â’r llogi.
(b) Ni fydd y Llogwr yn cyhoeddi nac yn achosi cyhoeddi mewn cysylltiad â’r llogi unrhyw hysbyseb, taflen, dogfen neu fath arall o gyhoeddusrwydd sy’n nodi neu y gellid deall yn rhesymol ei fod yn nodi bwriad gan berson i gyflawni gweithred o wahaniaethu p’un ai a fyddai’r weithred honno ganddo yn gyfreithlon neu’n anghyfreithlon ac a fyddai’r weithred honno’n golygu mynd yn groes i baragraff blaenorol y cymal hwn ai peidio.
(c) Yn y cymal hwn, mae arfer gwahaniaethol yn golygu cymhwyso gofyniad neu amod sy’n arwain at weithred o wahaniaethu, neu a fyddai’n debygol o arwain at weithred o wahaniaethu neu unrhyw un o’r mathau y cyfeirir atynt ym mharagraff (I) y cymal hwn.  Bydd y Llogwr yn cyflawni gweithred o wahaniaethu os bydd yn cymhwyso arfer gwahaniaethol neu os bydd yn gweithredu arferion neu drefniadau eraill, a fyddai mewn unrhyw amgylchiadau yn galw am arfer gwahaniaethol ganddo.
(d) Bydd y Llogwr yn cadw at ofynion Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a lle bo’n berthnasol, bydd yn cadw at God Ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fel y cymeradwywyd gan y Senedd ym 1983.
(e) Bydd y Llogwr yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw berson y mae’n gyfrifol amdano mewn cysylltiad â’r llogi’n cadw at ofynion y cymal hwn.
(f) Os bydd y Rheolwr yn ffurfio’r farn bod y Llogwr neu unrhyw un y mae’n gyfrifol amdano wedi torri darpariaethau’r cymal hwn, gall y Rheolwr derfynu’r llogi ar unwaith a gofyn i’r Llogwr adael y Cyfleuster ar unwaith, ar yr amod y bydd cyfrifoldebau’r Llogwr am unrhyw daliad dan yr Amodau Llogi yn parhau, ac ni fydd angen i’r Cyngor ad-dalu i’r Llogwr unrhyw daliadau a wnaed mewn cysylltiad â llogi’r Cyfleuster.

25. GDPR

Caiff unrhyw ddata a roddir gennych ei ddiogelu’n unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac wrth ei roi rydych yn caniatáu i’r Cyngor ei brosesu at y diben y’i rhoddir.  Bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a dim ond at ddibenion a ganiateir gan y gyfraith y bydd y Cyngor yn ei defnyddio neu ei datgelu i eraill. Bydd data’n cael ei gadw am flwyddyn ar ôl canslo aelodaeth.

© CF11 Ffitrwydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd