Dewch i gael blas arNhCF11 Ffitrwydd, yr ystafell ffitrwydd newydd ei hadnewyddu a’i hehangu yn Nhrem y Môr!
Gyda’r holl gyfarpar TechnoGym cyfoes diweddaraf, bydd yr 85 o safleoedd ymarfer corff yn cynnig popeth y bydd ei angen arnoch i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
Wrth weithredu ein hymrwymiad i gyflwyno ymarfer corff a hyfforddiant i bob oed a gallu, rydym wedi ychwanegu campfa i fenywod yn unig a dosbarthiadau ymarfer corff i grwpiau.
Mae’r ardal iechyd a ffitrwydd yn cynnig amrywiaeth wych o gyfarpar ymarfer cardiofasgwlaidd, gwrthiant a swyddogaethol, heb sôn am olygfeydd heb eu hail dros Afon Taf. Mae’r holl beiriannau’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf i’ch galluogi i dracio a monitro’r holl weithgareddau a wnewch yn y gampfa neu yn yr awyr agored, trwy app mywellness Technogym.
Yng nghanol y gymuned leol, bydd croeso cynnes yn aros amdanoch gan staff cyfeillgar y ganolfan, a bydd ein tîm o hyfforddwyr ffitrwydd cymwys wrth law i’ch arwain trwy sesiwn sefydlu. Felly dewch lawr i CF11 Ffitrwydd fel y gallwn ni eich tywys o gwmpas ein hystafell ffitrwydd newydd sbon!
Oriau Agor
Dydd Llun | 07.15 – 22.00 |
Dydd Mawrth | 09.00 – 21.00 |
Dydd Mercher | 07.15 – 22.00 |
Dydd Iau | 09.00 – 21.00 |
Dydd Gwener | 07.15 – 18.30 |
Dydd Sadwrn | 09.00 – 16.00 |
Dydd Sul | 09.00 – 16.00 |
Y manteision o ymuno â ni
Y peiriannau pwysau Technogym diweddaraf
Ardal pwysau rhydd
Ystafell gardiofasgwlaidd â system aer dymheru
Campfa ar wahân â 15 safle i fenywod yn unig.
Caeau pêl-droed 3G dan do ac awyr agored.
Sut i ddod o hyd i ni
Jim Driscoll Way,
Grangetown,
Caerdydd,
CF11 7HB