Diffiniadau

Mae cyfeiriadau at ‘chi’ ac ‘eich’ yn gyfeiriadau at yrUnigolyn sy’n cwblhau’r ffurflen gais.

Mae ‘Cerdyn Aelodaeth’ yn golygu’r cerdyn a roddwyd i Aelod gan Gyngor Caerdydd i ganiatáu i Aelod ddefnyddio’r Ganolfan.

Ystyr ‘Ffurflen Gais’ yw’r [ffurflen ynghlwm] wedi’i llofnodi gan unigolyn sy’n ymrwymo i gytundeb i ddefnyddio Aelodaeth Ffitrwydd CF11 Canolfan Trem y Môr Cyngor Caerdydd.

Ystyr “Cyngor Caerdydd” yw Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd.

Mae ‘Canolfan’ yn golygu Canolfan Trem y Môr.

Ystyr ‘Aelod’ yw unigolyn sy’n ymrwymo i gytundeb gyda Chyngor Caerdydd i ddefnyddio Aelodaeth Ffitrwydd CF11.

Ystyr ‘Ffi Aelodaeth’ yw’r ffi sy’n daladwy o dan yr Aelodaeth Ffitrwydd CF11 fel y manylir ar y Ffurflen Gais.

 

Prif Delerau

1) Mae’r cytundeb hwn yn cychwyn ac felly’n dod yn rhwymol ar y dyddiad y mae’r ddwy ochr yn llofnodi’r Ffurflen Gais

2) Nid oes modd trosglwyddo’r cytundeb hwn ac mae pob ymgeisydd yn cytuno i gael tynnu eu llun fel mesur diogelwch i atal defnydd twyllodrus. Bydd ffotograffau yn gysylltiedig â’ch cerdyn a chânt eu storio’n electronig at ddibenion adnabod.

3) Dim ond yn y Ganolfan y gellir defnyddio Cerdyn Ffitrwydd CF11.

 

Ffioedd a Chostau

4) Rydych yn llofnodi cytundeb i ddefnyddio’r Ganolfan yn fisol.

5) Rhaid talu’r Ffi Aelodaeth fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol a bydd hwn yn cael ei gasglu o’ch cyfrif banc ar y 15fed diwrnod o bob mis oni bai bod y 15fed yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl y banc, yn yr achos hwn bydd y Ffi Aelodaeth yn cael ei chymryd o’ch cyfrif banc ar y diwrnod gwaith nesaf.

Mae gan Gyngor Caerdydd yr hawl i newid y dyddiad hwn ar ôl cyflwyno rhybudd ysgrifenedig o ddeg diwrnod.

6) Rydych yn cytuno i’n hysbysu ar unwaith o unrhyw newid i’ch manylion ar y Ffurflen Gais.

7) Mae gan Gyngor Caerdydd yr hawl i adolygu’r holl gostau ar unrhyw adeg.

 

Canslo a Diddymu

8) Bydd eich aelodaeth yn parhau’n awtomatig bob mis am y swm a hysbysebir ar wefan Ffitrwydd CF11 y mis, tan y byddwch yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o fis i Gyngor Caerdydd o’ch bwriad i ganslo (o leiaf un Taliad Debyd Uniongyrchol) i CANOLFAN TREM Y MÔR, RHODFA JIM DRISCOLL GRANGETOWN, CAERDYDD, CF11 7HB

9) Gellir terfynu’r cytundeb hwn gan Gyngor Caerdydd gan eich darparu gydag rhybudd ysgrifenedig un mis.

10) Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo neu dynnu Aelodaeth yn ôl ar unwaith mewn amgylchiadau eithriadol heb iawndal.

 

Trwy lofnodi’r cytundeb hwn rydych yn gwarantu, yn datgan ac yn cydnabod y canlynol:

11) Bod y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais yn gywir.

12) Rydych chi mewn iechyd da ac nid ydych yn ymwybodol o anallu i gymryd rhan mewn ymarfer corff ac na fyddai ymarfer corff o’r fath yn yn niweidiol i’ch iechyd, diogelwch, cysur, lles, neu gyflwr corfforol. Byddwch yn ein hysbysu ar unwaith os bydd eich amgylchiadau’n newid.

 

1) Mae gofyn i chi gwblhau sesiwn sefydlu yng Nghanolfan Trem y Môr gydag aelod Cyngor Caerdydd â chymwysterau addas cyn defnyddio’r gampfa.  Oni bai eich bod wedi llofnodi ffurflen ymwrthod.

2) Ni fyddwch yn:

(a) peri risg i iechyd a diogelwch staff Cyngor Caerdydd ac Aelodau eraill.

(b) ymddwyn mewn modd treisgar nac ymosodol

(c) ymddwyn mewn ffordd sy’n peri risg diogelwch i chi eich hun neu i eraill.

(ch) camddefnyddio offer neu gyfleusterau

(d) cam-drin staff ar lafar neu’n gorfforol

3) Byddwch yn:

(a) defnyddio offer a chyfleusterau’r gampfa yn unol â’r holl gyfarwyddiadau defnyddio

(b) ymddwyn yn y fath fodd na fyddwch yn ymyrryd â defnydd na mwynhad  Aelodau eraill o’r offer a’r cyfleusterau

(c) gwisgo dillad ac esgidiau priodol i ddefnyddio’r cyfleusterau

4) Ni fydd Cyngor Caerdydd yn atebol mewn unrhyw ffordd am golled neu ddifrod neu ladrad eich eiddo neu am anaf personol neu farwolaeth unrhyw Aelodau neu unigolion sy’n defnyddio’r Ganolfan ac eithrio i’r graddau fod y fath golled, difrod neu anaf personol neu farwolaeth yn codi o weithred fwriadol, esgeulustod neu fethiant Cyngor Caerdydd.

5) Rydych wedi darllen y cytundeb hwn gan gynnwys y telerau ac amodau cyn ei lofnodi.

6) Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i amrywio’r telerau ac amodau hyn o bryd i’w gilydd, cewch eich hysbysu cyn unrhyw newidiadau a bydd y newidiadau ar gael i’w gweld ar wefan Ffitrwydd CF11 ac ar hysbysfyrddau yn y Ganolfan.

CYFNOD CALLIO – o ddyddiad llofnodi’r cytundeb mae gennych yr opsiwn o gyfnod callio 14 diwrnod pryd y gallwch chi ganslo’r aelodaeth hon.

© CF11 Ffitrwydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd