Datganiad Ffitrwydd i Ymarfer Corff

Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud gennyf i ac amdanaf i ac ar ran unrhyw un arall yr wyf yn cofrestru ar eu rhan, yr wyf yn gyfrifol amdanynt yn ystod ymweliadau â’r ganolfan hamdden [Mae “fi”, “fy”, “fi fy hun” yn cyfateb i “nhw”, “eu”, “nhw eu hunain” dan y fath amgylchiadau].

 

  • Rwy’n datgan fy mod i’n ffit i ymarfer corff ac nad oes gennyf unrhyw gyflwr iechyd a allai ymyrryd ag ymarfer corff yn ddiogel.
  • Os oes gen i gyflwr meddygol a allai ymyrryd â’r ymarfer corff yn ddiogel, byddaf yn derbyn ac yn dilyn y cyngor gan berson proffesiynol meddygol perthnasol cyn i mi ddefnyddio’r offer a’r cyfleusterau. Byddaf yn rhoi gwybod i aelod perthnasol o staff am unrhyw gyfarwyddyd a ddarperir gan weithiwr proffesiynol meddygol.
  • Byddaf yn ymarfer o fewn fy ngallu corfforol a’m gwybodaeth fy hun a byddaf yn dilyn y cyfarwyddiadau ar yr offer ffitrwydd. Ni fyddaf yn gwneud unrhyw ymarferion nac yn defnyddio unrhyw offer y dywedwyd wrthyf nad ydynt yn addas i mi.
  • Byddaf yn rhoi gwybod i’r hyfforddwr neu’r aelod o staff am unrhyw rwystrau meddygol neu gorfforol i ymarfer corff a byddaf yn eu hysbysu ar unwaith os byddaf yn teimlo’n sâl wrth ddefnyddio ein hoffer neu gyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys lle gall fy ngallu i fod yn gorfforol egnïol fod yn risg i eraill.
  • Rwy’n cadarnhau y byddaf yn gofyn am gyngor oddi wrth staff y Ganolfan Hamdden os ydw i’n ansicr ynghylch y defnydd diogel o unrhyw offer yr wyf yn bwriadu ei ddefnyddio [yn enwedig offer gwrthsefyll].
  • Byddaf yn gwneud fy hun yn ymwybodol o unrhyw reolau, cyfarwyddiadau a rhybuddion ac yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i mi gan staff y Ganolfan Hamdden.
  • Byddaf yn rhoi’r gorau i ymarfer os bydd fy ffitrwydd meddygol i ymarfer corff yn newid.
  • Os oes gennyf anabledd, byddaf yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol i adael i mi [neu nhw] ymarfer corff yn ddiogel.
  • Byddaf yn trin eiddo’r Ganolfan Hamdden yn ofalus, ac yn adrodd am unrhyw ddifrod, colled neu ladrad a allai ddigwydd.

 

Datganiad Cwmni

  • Byddwn yn cadw’r cyfleusterau a’r offer mewn cyflwr diogel
  • Bydd ein staff yn meddu ar gymwysterau addas i roi cyngor ar ddefnydd diogel o’n cyfleusterau a’n hoffer.
  • Byddwn yn darparu cyngor priodol ar ddefnyddio’r cyfleusterau a’r offer ar gais.
  • Gallwn ddarparu sesiwn sefydlu campfa lawn os oes angen. Neu fel arall, os nad ydych yn siŵr sut i ddefnyddio darn o offer, cysylltwch ag aelod o staff
  • Pan fydd y defnyddiwr yn ein cynghori o unrhyw angen arbennig /anabledd penodol, byddwn yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol i’w bodloni.

© CF11 Ffitrwydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd