Polisi Preifatrwydd
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD CANOLFAN HAMDDEN TREM Y MÔR
Mae’r rhybudd hwn ar gyfer unigolion sydd wedi cofrestru i ddefnyddio’r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr.
Mae’r Cyngor yn prosesu gwybodaeth benodol amdanoch chi (a elwir yn ddata personol) o ddydd i ddydd er mwyn cyflawni ein swyddogaethau. Rydym wedi’n cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym yn cael ei phrosesu yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data a GDPR y DU.
Mae’r hysbysiad hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am unrhyw ddata mae Canolfan Hamdden Trem y Môr yn ei gadw amdanoch, sut maent yn ei defnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hi a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w ddiogelu.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael
Mae Canolfan Hamdden Trem y Môr yn casglu, yn prosesu, ac yn dal eich data personol er mwyn darparu gwasanaethau hamdden yn effeithiol ar ran Cyngor Caerdydd. Rydym yn derbyn eich data personol pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden.
Y data rydym yn ei gasglu, a’i brosesu yw:
· Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
· Manylion ariannol fel rhif cyfrif banc os ydych yn talu aelodaeth drwy Ddebyd Uniongyrchol.
· Rhywedd
· Dyddiad geni
· Data anabledd
· Iechyd Corfforol
Sut y byddwn yn defnyddio’ch data personol
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig mynediad i’n gwasanaethau hamdden i chi. Gall hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:
· Prosesu eich aelodaeth trwy ein system gyfrifiadurol
· Darparu mynediad i’n cyfleusterau
· Darparu gwybodaeth debyd uniongyrchol i fanciau i brosesu taliadau
· I greu cofrestrau ar gyfer archebion dosbarth a chyrsiau
· Am resymau iechyd a diogelwch, megis manylion cyswllt brys
· I gysylltu â chi am faterion sy’n gysylltiedig â gwasanaeth e.e. taliadau debyd uniongyrchol coll, newid math aelodaeth ac ati.
· Lle mae cydsyniad wedi’i roi, i gysylltu â chi gyda diweddariadau/cynigion o’r gwasanaethau sydd ar gael
Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw
Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth i eraill, megis y GIG neu’r heddlu, ond dim ond pan fo hyn yn angenrheidiol naill ai i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol neu fel y caniateir gan ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.
Bydd data personol yn cael ei gadw am flwyddyn ar ôl i’ch aelodaeth gael ei ganslo. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd data’n cael ei wneud yn ddienw, a chopïau caled yn cael eu dinistrio.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy’n hen. Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan fod unrhyw gamgymeriadau’n cael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.
Os hoffech chi arfer unrhyw un neu rai o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn oddi wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy eu llinell gymorth 0303 123 1113.
Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon at y dibenion uchod yw Erthygl 6 (1) (b) lle mae angen prosesu ar gyfer perfformiad contract y mae’r gwrthrych data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais y gwrthrych data cyn ymrwymo i gontract.
Mewn rhai amgylchiadau, bydd gofyn i ni brosesu gwybodaeth ynglŷn ag iechyd unigolyn. Dosberthir hyn fel data categori arbennig a chaiff ei brosesu o dan Erthygl 9 (2) (g) lle mae prosesu’n angenrheidiol at ddibenion meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu gweithio’r gweithiwr, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Swyddog Diogelu Data
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data Tîm
Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk
Diweddaru’r hysbysiad hwn
Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw’r newidiadau i rym.
Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2022